Cynllunio Ystadau

Ychydig ohonom sy'n hoffi meddwl am farw, ond yr un mor ychydig ohonom a allai fyw gyda'r meddwl nad ydym wedi gwneud darpariaeth ddigonol ar gyfer teulu a ffrindiau sy'n ein goroesi.

Mae'r ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu trosglwyddo eich ystâd i'r buddiolwyr o'ch dewis yn ei gwneud yn ofynnol i chi gynllunio ymhell ymlaen llaw. Gan nad oes yr un ohonom yn gwybod pryd y byddwn yn marw, mae hyn yn golygu gwneud y darpariaethau angenrheidiol cyn gynted a phosib.

Rydym am weithio gyda chi i wneud y mwyaf o'r swm y bydd eich buddiolwyr yn ei derbyn. Po gynharaf y byddwch yn gwneud y trefniadau, y mwyaf yw eich siawns o fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd treth sydd ar gael. Does dim byd gwaeth na meddwl am ddarn sylweddol o'r cyfoeth rydych chi wedi gweithio'n galed i'w gronni yn gorffen yng nghoffrau'r Llywodraeth!

Mae'r un mor bwysig wrth gynllunio i drosglwyddo'ch ystâd eich bod yn gwneud darpariaeth ddigonol i chi'ch hun a'ch partner. Mae taro'r cydbwysedd hwn yn galw am gryn sgil a rhagwelediad - a dealltwriaeth manwl o'r drefn dreth.

Rydym yn darparu gwasanaeth cynllunio ystâd sy'n cynnwys:

  • Help gyda llunio ac adolygu eich ewyllys

  • Gwneud defnydd llawn o eithriadau a chyfraddau treth is ar drosglwyddiadau oes

  • Optimeiddio trosglwyddiadau oes rhwng pobl priod

  • Trosglwyddo eiddo amaethyddol neu fusnes

  • Trosglwyddo asedau i ymddiriedaeth

  • Trefnu polisi sicrwydd bywyd digonol i dalu costau treth etifeddiaeth posibl

Cynghorwn yn gryf i ddechrau cynllunio eich ystâd ar unwaith trwy gysylltu â ni am adolygiad rhagarweiniol.