Ymddiriedolaethau ac ysgutoraethau
Mae ymddiriedolaethau yn ffordd gymharol hawdd ac effeithlon iawn o ran treth i neilltuo asedau ar gyfer buddiolwyr y dyfodol y tu allan i'r rhwyd Treth Etifeddiant. Gallwn roi cyngor ar y math mwyaf addas o ymddiriedolaeth at eich dibenion, sefydlu ymddiriedolaethau, a darparu ystod lawn o wasanaethau cyfrifyddu ar gyfer ymddiriedolaethau.
Gallwn hefyd eich cynghori ar baratoi eich ewyllys.
Lle bo'n briodol, gallwn weithredu fel ymddiriedolwyr neu ysgutorion.