Cynghori a Gweithredu Meddalwedd

Logo+-+Blue.jpg
QuickBooks-Online-Logo.jpg
Sage_logo_bright_green_RGB_All Uses.png
movemybooks+-+final.png

Meddalwedd Cadw Llyfrau

Yn yr oes ddigidol cyfrifeg, mae'n bwysicach nag erioed cael gafael cadarn ar yr hyn y gall eich meddalwedd ei wneud. Rydym yn gweithio gyda phecynnau meddalwedd amrywiol gan gynnwys Xero, Sage, QuickBooks a llawer o ddarparwyr eraill.

Credwn yn gryf mai Xero yw'r pecyn amgylchynol cryfaf i helpu chi i redeg eich busnes ac helpu ni i baratoi eich cyfrifon i lefel uwch o fanylder ac ansawdd. Gydag ecosystem o dros 1000 o gymwysiadau trydydd parti, dyma'r pecyn cyfrifeg popeth-mewn-un gorau sydd ar gael. Mae ein harbenigedd wedi ennill statws hyrwyddwr platinwm i ni gyda Xero, felly p'un a ydych yn bwriadu torri i lawr ar eich amser gweinyddol gan ddefnyddio 'Dext' neu 'Hubdoc' neu i leihau eich baich cydymffurfio gyda 'Syft', does neb gwell i'ch tywys tuag at eich pentwr meddalwedd perffaith na ni.

Rydym yn cynnig gwasanaeth newid meddalwedd i'ch helpu i symud o Sage i Xero neu Quickbooks, ac o Quickbooks i Xero.

Rydym yn cydweithio'n agos â Dext a Hubdoc (trwy Xero) i gynnig pecynnau awtomeiddio helaeth

HBD-Logotype%281000%29.jpg
App marketplace.png

Gweithredu eich ecosystem Meddalwedd

Mae yna nifer o gymwysiadau trydydd parti yr ydym yn eu gweithredu ar ran ein cleientiaid sy'n gweithio'n ddi-dor gyda'i gilydd, gyda Xero wrth wraidd yr ecosystem. Ein nod yw eich helpu i arbed amser ac awtomeiddio cymaint o brosesau cydymffurfio â phosib, gan ryddhau ein hamser i gynnig dadansoddiad a chyngor manwl.